Neidio i'r cynnwys

Sglodion

Oddi ar Wicipedia
Sglodion
Enghraifft o'r canlynolsaig tatws Edit this on Wikidata
Mathside dish, bwyd hwylus, bwyd cyflym Edit this on Wikidata
Deunyddpotato Edit this on Wikidata
Rhan oBwyd Gwlad Belg, coginio Ffrainc Edit this on Wikidata
Yn cynnwystaten, olew llysiau, halen Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae sglodion gelwir hefyd ar lafar wrth yr enw Saesneg gyda'r sillafiad Saesneg "chips" a hefyd yn yr orgraff Gymraeg tsips (er, anfynych gwelir hynny bellach) yn datws, wedi'u torri, yna'u ffrio wrth orchuddio'n llawn â rhyw fath o fraster neu olew. Yn Saesneg fe'i gelwir yn chips neu'n French fries - er tueddir meddwl am French fries fel sglodion tenheuach. Maent yn cael eu paratoi trwy dorri tatws yn stribedi gwastad, eu sychu, a'u ffrio. Fel arfer cânt eu ffrio mewn padell ffrio ddofn. Yn ystod y broses o wneud, cânt eu torri ymlaen llaw, eu blansio, a defnyddir tatws russet wedi'u rhewi yn aml i'w gwneud. Gellir pobi sglodion mewn popty hefyd er mwyn defnyddio llai o fraster.[1]

Caiff sglodion eu gweini'n boeth, naill ai'n feddal neu'n grensiog, ac yn gyffredinol cânt eu bwyta ar gyfer cinio, swper, neu fel byrbryd. Maent yn ymddangos yn gyffredin ar fwydlenni bwytai, bwytai bwyd cyflym, tafarndai a bariau, ac, wrth reswm, Siop Sgod a Sglods

Bydd pobl yn aml yn ychwanegu halen arnynt, ac weithiau'n eu trochi mewn sos coch, finegr, mayonnaise, sôs cyrri, neu gydfwydydd eraill. Weithiau gorchuddir y sglodion â bwyd arall megis yn Quebec, poutine (caws ceulaidd a grefi) a/neu chili con carne. Weithiau gwneir sglodion o datws melys, yn lle tatws. Pan gaiff ei bobi mewn popty, ychydig o olew neu ddim olew, yn cael ei ddefnyddio.

Paratoi

[golygu | golygu cod]
Sglodion neu pommes frites gyda phecyn mayonnaise, sef y cydfwyd boblogaidd yng Ngwlad Belg
Byrger gyda sglodion crensiog
Peiriant torri sglodion ("Frietpersen"), yn y Frietmuseum (Amgueddfa Sglodion) yn Brugge, Fflandrys

Mae sglodion yn aml yn cael eu ffrio mewn ffrïwr dwfn, sy'n eu boddi mewn braster neu olew planhigion.[2] Mae ffriwyr gwactod (vacuum frier) yn ffordd arall o goginio heb gymaint o olew tra'n cadw gwead a lliw y sglodyn yn dda.[3]

Paratoir y tatws trwy eu torri'n stribedi gwastad yn gyntaf. Nid oes rhaid plicio croen y dysen. Gellir wedyn rhoi'r tatws mewn dŵr oer i dynnu'r startsh allan o'r sglodion. Unwaith y cânt eu tynnu allan o'r dŵr oer, cânt eu sychu.[4] Yna gellir eu ffrio yn y dechneg dau gam. Mae'r rhan fwyaf o gogyddion yn meddwl mai'r dechneg dau gam neu dau drochiad ("two bath") yw'r gorau er mwyn eu gwneud yn well wedi'u ffrio.[4][5] Efallai y bydd gan datws sy'n cael eu tynnu'n ffres o'r ddaear ormod o ddŵr sy'n gwneud y sglodion yn feddal ac yn wlyb. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn dewis tatws nad ydynt wedi'u defnyddio ers tro.

Techneg dau drochiad

[golygu | golygu cod]

Yn y dechneg dau gam neu ddau drochiad, y broses gyntaf i'w ffrio, a elwir weithiau'n "blanching", mewn braster poeth, gyda'r tymheredd tua 160°C.[4] Yna maen nhw'n cael eu ffrio am ychydig yn hirach, gyda'r tymheredd uwch, tua 190 °C fel eu bod nhw'n grensiog. Ar ôl hynny, fe'u gosodir mewn colandr neu ar frethyn draenio i hidlo peth o'r braster, ac yna cânt eu bwyta. Mae'r union amser i'r ddwy broses eu ffrio yn dibynnu ar faint y sglodon. Er enghraifft, ar gyfer stribedi 2-3 mm, mae'r broses gyntaf yn cymryd tua 3 munud, ac mae'r ail broses yn cymryd eiliadau yn unig. Ers y 1960au, mae'r rhan fwyaf o sglodion wedi'u gwneud o datws Russet wedi'u rhewi, sydd wedi'u glanhau'n broffesiynol neu wedi aersychu'n broffesiynol.[6] Y braster arferol a ddefnyddir ar gyfer gwneud sglodion yw olew llysiau. Yn y gorffennol, argymhellwyd siwet wedi'i wneud o gig eidion fel braster i'w gwneud, oherwydd credwyd y byddent yn blasu'n well. Defnyddiodd cadwyn fwyd McDonald's gymysgedd o 93% o wêr eidion a 7% o olew had cotwm tan 1990, pan newidiwyd i olew llysiau gyda chyflasyn cig eidion. Roedd braster ceffyl yn cael ei ddefnyddio'n aml fel braster i wneud sglodion yng ngogledd Ffrainc a Gwlad Belg, tan yn ddiweddar. Mae rhai cogyddion yn dal i'w ddefnyddio.

Nid oes unrhyw sicrwydd ynghylch amser a lleoliad dyfeisio sglodion. Yn ôl ffynonellau amrywiol, byddai sglodion wedi tarddu o ddiwedd yr 17g. Yn ôl Encyclopedie van de fried (Gwyddoniadur y Sglodion), adroddir i darnau o datws wedi'u ffrio cael eu paratoi am y tro cyntaf ym Mhenrhyn Iberia. Dywedir i Teresa o Avila ffrio'r tatws wedi'u sleisio mewn sosban gydag olew olewydd berwedig a hynny mewn lleiandy.[7]

Anghydfod Ffrainc Gwlad Belg

[golygu | golygu cod]

Mae anghydfod parhaus rhwng y Belgiaid a'r Ffrancwyr ynghylch ble a phwy ddyfeisiwyd sglodion.[8]

Mae'r hanesydd bwyd o Wlad Belg, Pierre Leclercq, wedi olrhain hanes y ffrïo ac yn honni "ei bod yn amlwg bod sglodion o darddiad Ffrengig".[9]

Serch hynny, mae'r anghydfod dros bwy ddyfeisiodd y sglodion yn parhau. Ceir y Frietmuseum, yr Amgueddfa Sglodion, yn ninas Brugge yn Fflandrys yn arwydd o bwysigrwydd eiconig y bwyd yma i hunaniaeth Gwlad Belg. Brolia'r amgueddfa, "Ynghyd â siocled blasus Gwlad Belg, sglodion Gwlad Belg yn sicr yw'r cynnyrch sy'n dangos fwyaf o ffordd o fyw da pobl Gwlad Belg. Dros y blynyddoedd, mae sglodion wedi dod yn gynnyrch sydd wedi ymledu ledled y byd, er mawr lawenydd mawr a bach, ym mron pob gwlad, a gallwn felly ymfalchïo yn y ffaith bod sglodion yn gynnyrch a anwyd yng Ngwlad Belg."[10]

Cymru a Sglodion

[golygu | golygu cod]
Siop Sgod a Sglods Sglods yn Llan-non, Ceredigion

Mae'r gair Cymraeg sglodion yn gyfieithiad llythrennol o'r gair Saesneg chips ac, fel chips, mae'n cyfeirion'n wreiddiol at "naddion pren, carreg, &c., tafelli, siafins, creifion". Gan efelychu'r gair Saesneg daeth y gair yma hefyd i ddisgrifio "darnau hirfain o daten wedi eu ffrio’n ddwfn mewn saim" rhywbryd yn yr 20g.[11]

Daw'r gair sglodion ei hun o'r Frythoneg asglod, sydd ei hun yn fenthyciad o'r Lladin gwreiddiol assula daeth wedyn yn y Lladin Canol i'w ynganu fel "ascloedenn" ac a ddaeth yn ei dro mewn Lladin Llafar ac i "ascla".[12]

Llenyddiaeth a diwylliant boblogaidd

[golygu | golygu cod]
  • Cadwa dy blydi chips! - yn y nofel William Jones gan T. Rowland Hughes, ysgrifennwyd yn 1944, adroddir hanes chwarelwr o Wynedd sy'n penderfynu gadael ei gymuned i chwilio am waith ym mhyllau glo y De. Mae'n disgrifio bywydau caled y chwarelwyr ar ddechrau'r 20g. Yn y nofel ceir y dyfyniad enwog, "Cadw dy blydi chips!" a gredir i fod y tro cyntaf i air rheg ymddangos mewn llenyddiaeth Gymraeg gyfoes.[13]
  • Cadwch eich blydi xips! - mewn cerdd gan y bardd Osian Rhys Jones yn 2016 gwnaeth yr awdur yr achos dros fabwysiadu'r lythyren "x" ar gyfer y sain /t͡ʃ/ neu "ch Saesneg". Mae'n cynnig hyn er hwylustod deall a'r drwswch dros yr 'tsi' trwsgwl a arddelir weithiau wrth ysgrifennu'r sain yn y Gymraeg. Yn y gerdd mae'n rhestri geiriau cyffredin Cymraeg sy'n defnyddio'r sain, gan gynnwys "xips" byddai'n elwa o'r sillafiad clir newydd.[14]
  • Cân "Dwi'n Fflipin Lyfio Chips" - yn 2019 recordiodd y cymeriad pyped Gareth yr Orangutan gân "Dwi'n Fflipin Lyfrio Chips". Yn y fideo i'r gân a ddarlledwyr ar sianel bobl ifanc S4C, Hansh, mae Gareth a'r actor Owain Arthur - "Hogs y Sglods" fel maent yn galw eu hunain - yn gyrru trwy ardal Caernarfon ac yn casglu sglods o Siop Sgod a Sglods.[15]
  • Pisio ar dy chips - ceir yr ymadrodd boblogaidd, "pisio ar dy chips" i olygu gwneud pethau'n waeth i'ch hunan heb fod angen.[16] neu o'i dreiglo "paid pisio ar dy jips".[17]
  • Caroline St, Caerdydd - gelwir Stryd Caroline yng nghanol dinas Caerdydd ar lafar yn "Chip Alley" neu "Chippy Lane" (neu amrywiaethau ar hynny). Mae hyn oherwydd, ers yr Ail Ryfel Byd mae'n cynnwys sawl siop 'Sgod a Sglods ac yn gyrchfan boblogaidd ar ddiwedd noson feddwol. Oherwydd atyniad gemau rygbi a phêl-droed rhyngwladol Cymru, mae'r stryd yn adnabyddus i bobl o du allan i'r Brifddinas. Yn ystod y cyfnod prysuraf rhwng 11pm-4am mae’r ardal hon yn "bot mêl i drosedd” yn ôl yr awdurdodau.[18] Mae sawl digwyddiadau cambihafiol wedi digwydd yn y stryd megis ym mis Ionawr 2011 pan arestiwyd y pêl-droediwr Craig Bellamy a'i ryddhau ar fechnïaeth ar hawliad honedig o ymosodiad wedi i ddau ddyn dderbyn anafiadau i'w hwynebau.[19] Cyfeirir at enw drwgenwog y stryd mewn pennod o'r comedi sefyllfa Gavin & Stacey.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Dolenni allannol

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Chunky oven chips". BBC Good Food. BBC. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 August 2019. Cyrchwyd 7 March 2016.
  2. Amber, Fariha (17 August 2021). "Top tips for making the perfect fries". The Daily Star (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 17 August 2021. Cyrchwyd 17 August 2021.
  3. Garayo, Jagoba; Moreira, Rosana (1 November 2002). "Vacuum frying of potato chips". Journal of Food Engineering 55 (2): 181–191. doi:10.1016/S0260-8774(02)00062-6. ISSN 0260-8774.
  4. 4.0 4.1 4.2 Saint-Ange, Evelyn (2005) [1927]. La Bonne Cuisine de Madame E. Saint-Ange: The Essential Companion for Authentic French Cooking. Larousse, translation Ten Speed Press. t. 553. ISBN 978-1-58008-605-9.
  5. Blumenthal, Heston (17 April 2012). "How to cook perfect spuds". The Age. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 September 2014. Cyrchwyd 12 October 2012.
  6. "The Making of French Fries". thespruce.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 December 2017. Cyrchwyd 8 December 2017.
  7. Paul Ilegems, Encyclopedie van de friet, 2014, ISBN 9789079048427
  8. Schehr, Lawrence R.; Weiss, Allen S. (2001). French Food: On the Table On the Page and in French Culture. Abingdon: Routledge. t. 158. ISBN 978-0415936286.
  9. "Histoire de la pomme de terre frite". Histoiredelafrite.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 29 April 2022. Cyrchwyd 8 June 2022.
  10. "About". Frietmuseum. Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  11. "ysglodion, sglodion". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  12. "asglod". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  13. Mark Rees, The Little Book of Welsh Culture, The History Press, 2016, t.1987
  14. "Cadwch eich Blydi Xips". Blog Osian Rhys Jones. Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  15. "Gareth - Fflipin Lyfio Chips". Sianel Hansh ar Youtube. 2019. Cyrchwyd 28 Awst 2024.
  16. "Pisio ar dy chips". Cyfrif X Walis George. 21 Ionawr 2020.
  17. "Idiom of the day". Gwefan Omniglot. 5 Gorffennaf 2007.
  18. "Chippy Lane 'honey pot' for crime sees takeaway licence refused". Guardian Cardiff. 24 September 2010. Cyrchwyd 6 April 2012.
  19. "Craig Bellamy arrested over Cardiff assault claim". BBC News. 12 January 2011.