Rheilffordd Bae Hudson (1997)
Enghraifft o'r canlynol | cwmni rheilffordd |
---|---|
Rhiant sefydliad | Arctic Gateway Group |
Pencadlys | Regina |
Gwladwriaeth | Canada |
Gwefan | http://arcticgateway.com/the-gateway/#railway |
Mae Rheilffordd Bae Hudson yn rheilffordd gyda 1300 cilomedr o gledrau yn Saskatchewan a Manitoba, Canada.
Ffurfiwyd y Cwmni gan gwmni dal OmniTRAX ym mis Gorffennaf 1997 er mwyn prynu 2 gangen y Rheilffordd y Canadian National, yn mynd i’r gogledd o’r Pas,[1] un i Flin Flon ac ymlaen i Lynn Lake ar’r llall i Thompson ac ymlaen i borthladd Churchill ar Fae Hudson.[2] Dechreuodd gwasanaethau ar 20 Awst 1997. Ar yr un adeg, cymerodd OmniTRAX reolaeth porthladd Churchill o Transport Canada. Mae OmniTrax wedi defnyddio trenau mwy, sydd wedi achosi cynnydd mewn traffig o byllau a melinau i’r porthladd. Cludir mwynau, copr, prên, papur ac olew gan y rheilffordd, ac mae VIA Rail yn rhedeg gwasanaeth i deithwyr ar draciau’r rheilffordd.
Hanes
[golygu | golygu cod]Adeiladwyd y rheilffordd gan Reilffordd Bae Hudson yn y 1900au dan reolaeth Rheilffordd Canadian National ac wedyn Llywodraeth Canada. Cwblhawyd y rheilffordd ym 1929, a rheolwyd y rheilffordd gan Reilffordd Canadian National hyd at 1997.
Adeiladu’r rheilffordd
[golygu | golygu cod]Y cynllun gwreiddiol oedd adeiladu rheilffordd i Port Nelson, ar aber Afon Nelson, sydd yn llifo o Llyn Winnipeg. Stoppiodd gwaith adeiladu yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ar ôl ailddechrau, penderfynwyd y buasai cynnal a chadw porthladd ar afon Nelson yn ddrud, a penderfynwyd mynd i aber Afon Churchill. Roedd aber Afon Churchill yn dyfnach, a buasai’n hawdd cynnal porthladd yno.[3]
Llifogydd 2017
[golygu | golygu cod]Caewyd y rheilffordd ar 23 Mai 2017 oherwydd llifogydd a’r difrod canlynol rhwng Amery a Churchill[4], gan achosi problemau difrifol i economi Churchill; roedd rhaid mewnforio bwyd a thanwydd ar awyrennau. Roedd dadl rhwng llywodraeth Canada ac Omnitrax am gyfrifoldeb dros y gwaith trwsio. Dadlodd y llywodraeth bod gan Omnitrax gyfrifoldeb i wneud y gwaith fel perchnogion. Dadlodd Omnitrax bod y drychineb yn ‘force majeure’ ac felly'n gyfrifoldeb ar y llywodraeth.[5][6]
Gwerthiant i Grŵp ‘Arctic Gateway’
[golygu | golygu cod]Gwerthwyd y rheilffordd a phorthladd i Grŵp ‘Arctic Gateway’ ym mis Awst 2018, a rhoddwyd cytundebau i ‘Cando Rail Services Cyf’ a ‘Paradox Access Solutions’ i drwsio’r rheilffordd.[7][8] Perchnogion 50% y Grŵp ‘Arctic Gateway’ yw cymunedau Manitoba a llwythau brodorol; y 50% arall yw Cwmni Dal cyllidol Fairfax a Bwyd a Chynhwysion AGT.[9]
Datgannodd llywodraeth Canada ar 31 Awst 2018 y buasai’n rhoi cymorth ariannol i Arctic Gateway er mwyn prynu’r rheilffordd a phorthladd yn ôl o Omnitrax, a rhoddwyd grant o $43 miliwn o ddoleri i dalu am redeg y rheilffordd dros y 3 blynedd nesaf. Croesawodd Justin Trudeau y trên cyntaf i gyrraedd Churchill ers 18 mis ar 1 Tachwedd 2018. Ail-ddechreuodd gwasanaeth i deithwyr mis yn hwyrach.[10]
Mae 2 trên VIA Rail yn wythnosol rhwng Winnipeg a Churchill, ac un rhwng Churchill a The Pas.[11]
Rheilffordd Keewatin
[golygu | golygu cod]Gwerthwyd Rheilffordd Keewatin, rhwng Cyffordd Sheritt a Lynn Lake, i dri llwyth yr ardal ar 1 Ebrill 2006, ac mae trenau cymysg o deithwyr a nwyddau dwywaith bob wythnos.
Diwylliant poblogaidd
[golygu | golygu cod]- Mae’r nofel 1931 ‘End of Steel’ gan Courtney Ryley Cooper yn fersiwn ffiglennol o adeiladu’r rheilffordd.
- Ynsgrifennodd a recordiodd John Leeder, perfformwr o Calgary, gân o’r enw ‘Hudson Bay Line.[12] Mae Leeder yn dweud bod chwech recordiad gwahanol o’r gân yn bodoli.[13]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Trains return to Churchill". Railway Gazette (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-08. Cyrchwyd 7 Rhagfyr 2018.
- ↑ David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
- ↑ David Malaher (Hydref 1984). "Port Nelson and the Hudson Bay Railway" (yn en). Manitoba History (Cymdeithas Hanes Manitoba) (8). http://www.mhs.mb.ca/docs/mb_history/08/hudsonbayrailway.shtml. Adalwyd 20 Awst 2010.
- ↑ cyhoeddiad i’r wasg, 9 Mehefin 2017
- ↑ Gwefan CBC, 1 Medi 2017
- ↑ Gwefan CBC, 14 Tachwedd 2017
- ↑ Gwefan y Brandon Sun, 5 Medi 2018
- ↑ "Gwefan Railway Gazette". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-23. Cyrchwyd 2021-10-20.
- ↑ Gwefan newyddion CBC
- ↑ Gwefan newyddion CBC, 2 Rhagfyr 2018
- ↑ "Gwefan Railway Gazette, 7 Rhagfyr 2018". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-08. Cyrchwyd 2021-09-08.
- ↑ Gwefan irontrail.ca
- ↑ Gwefan www.calgarysongwriter.com