Cronicl Turpin
Llinellau agoriadol Chronicl Turpin allan o Lyfr Coch Hergest | |
Enghraifft o'r canlynol | llawysgrif, adaptation |
---|---|
Awdur | Madog ap Selyf |
Rhan o | Llyfr Coch Hergest |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1285 |
Mae Cronicl Turpin yn drosiad Cymraeg Canol gan y llenor Madog ap Selyf (fl. cyn 1282) o waith Lladin poblogaidd a elwir Turpini Historia. Mae'n ffurfio rhan o gyfres o destunau am fywyd a gorchestion yr ymerodr Siarlymaen, a oedd ar gael yn Gymraeg yn yr Oesoedd Canol dan y teitl Ystorya de Carolo Magno (teitl y testunau am gylch Siarlymaen yn Llyfr Coch Hergest).
Priodolir y cronicl i un Iohannes Turpinus, Archiepiscopus Remensi, sef Ioan Twrpin, Archesgob Reims (yn Ffrainc), ond gwyddom erbyn hyn mai ffugiad yw hynny. Serch hynny mae'n amlwg fod yr awdwr anhysbys yn Ffrancwr.
Cafwyd sawl cyfieithiad i'r Ffrangeg o'r Turpini Historia, e.e. gan Nicholas de Senlis (tua 1200) a William de Briane (tua chanol y 13g).
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Stephen J. Williams, Ystorya de Carolo Magno (Caerdydd, 1968)