Sain Pedrog
Math | eglwys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Sain Pedrog |
Sir | Sir Benfro |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 80.5 metr |
Cyfesurynnau | 51.640127°N 4.934133°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Cysegrwyd i | Pedrog |
Manylion | |
Eglwys a phlwyf yng nghymuned Castellmartin 3 milltir i'r de-orllewin o dref Penfro yn Sir Benfro yw Sain Pedrog (Saesneg: St Petrox).
Mae Sain Pedrog yn y rhan o'r sir sydd yn draddiadol Saesneg ei hiaith, i'r de o'r Landsker. Ychydig o dystiolaeth sydd ar gael am enw Cymraeg y plwyf, ond digwydd Sain pedrog yn y rhestr o enwau plwyfi Cymru yn llawysgrif Peniarth 147 (c.1566) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[1]
Yr eglwys
[golygu | golygu cod]Mae'r eglwys (Cyfeirnod OS: SR970 973) wedi ei chysegru i Sant Pedrog ac mae'n dyddio o'r 13eg ganrif.[2]
Mae tŵr yr eglwys yn null traddodiadol Sir Benfro yn fain ac yn soled. Adferwyd yr eglwys yn llwyr ym 1854, o dan lygad barcud y pensaer R. Kyrke Penson, a thalwyd am y gwaith gan John Frederick, Iarll Cawdor o Gwrt Stackpole. Ychwanegwyd festri ar y pryd. Mae Richard Fenton, yn ei gyfrol An Historical Tour through Pembrokeshire (1810), yn disgifio'r eglwys fel 'small, but very light, airy and neat'. Ceir cofebau yn yr eglwys gan gynnwys un i William Lloyd, 1674, a chofeb arddull baroc i'r Arglwyddes Jane Mansell, dyddiedig 1692.
Y plwyf
[golygu | golygu cod]Mae'n rhan o blwyf unedig ers 1985 gyda Ystagbwll Elidir, Bosherston a St Twynnells. Yn 2001 ychwanegwyd St Mary's a St Michael's Penfro ac yn 2004 daeth yn rhan o Reithoriaeth Cil-maen. Mae'r hen reithordy nawr yn ffermdy Old Rectory Farm ers i'r reithor olaf Francis Leach ymadael tua 1870.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Charles, B. G. (1992). The Place-names of Pembrokeshire. 2. Aberystwyth: National Library of Wales. t. 732. ISBN 0907158-58-7.
- ↑ Gwefan y plwyf